John 13:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y daeth ef at Simon Petr, yr hwn a ddyuot wrthaw, Arglwydd, ai ti a ylch vy traet i?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Daeth, gan hyny, at Shimon Petr. Dywedodd efe Wrtho, Arglwydd, ai Ti sy’n golchi fy nhraed i?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly y mae’n dyfod at Simon Pedr. Dywed yntau wrtho: “Arglwydd, tydi ’n golchi fy nhraed i?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y daeth efe at Simon Pedr: ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, a wyt ti'n golchi fy nhraed i?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddaeth tro Simon Pedr, dyma Simon yn dweud, “Arglwydd, wyt ti'n mynd i olchi fy nhraed i?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth at Simon Pedr yn ei dro, ac meddai ef wrtho, "Arglwydd, a wyt ti am olchi fy nhraed i?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y mae efe yn dyfod gan hyny at Simon Petr. Y mae efe yn dywedyd wrtho, Arglwydd, a wyt ti yn golchi fy nhraed i?