John 13:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr Iesu a atepodd ac a ddyvot wrthaw, Yr hyn a wna vi, ny wyddos ti yr awrhon: eithyr ti ei gwybyddy gwedy hyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Attebodd yr Iesu a dywedodd wrtho, Yr hyn yr wyf Fi yn Ei wneuthur, tydi ni wyddost yr awr hon; ond cenfyddi ef ar ol hyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd Iesu a dywedodd wrtho: “Yr hyn yr wyf i yn ei wneuthur, ni wyddost yn awr, ond cei wybod ar ôl hyn.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Y peth yr wyf fi yn ei wneuthur, ni wyddost ti yr awron: eithr ti a gei wybod ar ôl hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu, “Dwyt ti ddim yn deall beth dw i'n wneud ar hyn o bryd, ond byddi'n dod i ddeall yn nes ymlaen.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Iesu ef: "Ni wyddost ti ar hyn o bryd beth yr wyf fi am ei wneud, ond fe ddoi i wybod ar l hyn."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Y peth yr wyf fi yn ei wneuthur, ni wyddost ti yr awrhon, ond ti a ddeui i wybod ar ol y pethau hyn.