John 13:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Petr a ddyvot wrthaw, Ny chei ’olchy vo‐traet i byth. Yr Iesu ei atepoð, A ny th ’olchaf di, ny chai ddim ran y gyd a mi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedyd Wrtho a wnaeth Petr, Ni olchi er dim, fy nhraed i, byth. Atteb iddo a wnaeth yr Iesu, Oni olchaf di, nid oes i ti gyfran gyda Mi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd Pedr wrtho: “Ni chei olchi fy nhraed i yn dragywydd.” Atebodd Iesu iddo: “Oni’th olchaf di, nid oes gennyt ran gyda mi.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pedr a ddywedodd wrtho, Ni chei di olchi fy nhraed i byth. Yr Iesu a atebodd iddo, Oni olchaf di, nid oes i ti gyfran gyda myfi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond meddai Pedr, “Na, byth! chei di ddim golchi fy nhraed i!” “Os ga i ddim dy olchi di,” meddai Iesu, “dwyt ti ddim yn perthyn i mi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai Pedr wrtho, "Ni chei di olchi fy nhraed i byth." Atebodd Iesu ef, "Os na chaf dy olchi di, nid oes lle iti gyda mi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Petr a ddywed wrtho, Ni chei di olchi fy nhraed i o gwbl yn dragywydd. Yr Iesu a atebodd iddo, Oni olchaf di, nid oes i ti gyfran gyd â myfi.