John 14:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AC ef a ddyvot wrth ei ddiscipulon, Na thrwbler eich calon: ydd ych yn credy yn‐Duw, credwch yno vi hevyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Na chynhyrfer eich calon chwi. Credu yr ydych yn Nuw; ac Ynof Finnau hefyd credwch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
“Na chynhyrfer eich calon; credwch yn Nuw a chredwch ynof innau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na thralloder eich calon: yr ydych yn credu yn Nuw, credwch ynof finnau hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Peidiwch cynhyrfu,” meddai Iesu wrth y disgyblion “Credwch yn Nuw, a chredwch ynof fi hefyd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Peidiwch gadael i ddim gynhyrfu'ch calon. Credwch yn Nuw, a chredwch ynof finnau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Na thralloder eich calon: credwch yn Nuw, credwch ynof finau hefyd.