John 14:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A ny chredy, vy‐bot i yn y Tat, a’ bot y Tat yno vi? Y gairiae ydd wyf yn ey dywedyt wrthych, nid o hanof vyhun ydd wyf yn ey dywedyt: eithyr y Tat yr hwn ys y yn trigio ynof, ef a wna y gweithredoedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Oni chredi Fy mod I yn y Tad, a’r Tad Ynof Finnau? Yr ymadroddion y rhai yr wyf Fi yn eu llefaru wrthych, nid o Honof Fy hun yr wyf yn eu llefaru, ond y Tad y sy’n aros Ynof Fi sy’n gwneuthur Ei weithredoedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oni chredi fy mod i yn y tad a’r tad ynof i? Y geiriau a ddywedaf i wrthych, nid ohonof fy hun yr wyf yn eu llefaru, ond y tad, wrth aros ynof i, sy’n gwneuthur ei weithredoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Onid wyt ti yn credu fy mod i yn y Tad, a'r Tad ynof finnau? Y geiriau yr wyf fi yn eu llefaru wrthych, nid ohonof fy hun yr wyf yn eu llefaru; ond y Tad yr hwn sydd yn aros ynof, efe sydd yn gwneuthur y gweithredoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wyt ti ddim yn credu fy mod i yn y Tad, a bod y Tad ynof fi? Dw i ddim yn dweud pethau ar fy liwt fy hun. Y Tad, sy'n byw ynof fi, sydd ar waith.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Onid wyt yn credu fy mod i yn y Tad, a'r Tad ynof fi? Y geiriau yr wyf fi'n eu dweud wrthych, nid ohonof fy hun yr wyf yn eu llefaru; y Tad sy'n aros ynof fi sydd yn gwneud ei weithredoedd ei hun.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Onid wyt ti yn credu fy mod i yn y Tâd, a'r Tâd ynof finau? Y geiriau yr wyf yn eu dywedyd wrthych, nid o honof fy hun yr wyf yn eu llefaru: ond y Tâd yr hwn sydd yn aros ynof fi sydd yn gwneuthur ei weithredoedd.