John 14:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, hwn a cred yno vi, y gweithredeð a wna vi, a wnaiff yntef hefyt, a’r ei mwy na’rhein a wnaiff: can ys at vy‐Tat ydd a vi,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Yr hwn sy’n credu Ynof, y gweithredoedd y rhai yr wyf Fi yn eu gwneuthur, hwnw hefyd a’u gwna, ac rhai mwy na’r rhai hyn a wna efe, gan mai at y Tad yr wyf Fi yn myned.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ar fy ngwir, meddaf i chwi, yr hwn sy’n credu ynof i, fe wna hwnnw hefyd y gweithredoedd yr wyf i yn eu gwneuthur, ac fe wna rai mwy na’r rhain, gan fy mod i yn myned at y tad.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur, yntau hefyd a'u gwna, a mwy na'r rhai hyn a wna efe: oblegid yr wyf fi yn myned at fy Nhad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Credwch chi fi, bydd pwy bynnag sy'n credu ynof fi yn gwneud yr un pethau ag ydw i wedi bod yn eu gwneud. Yn wir, byddan nhw'n gwneud llawer iawn mwy, am fy mod i yn mynd at y Tad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, bydd pwy bynnag sy'n credu ynof fi hefyd yn gwneud y gweithredoedd yr wyf fi'n eu gwneud; yn wir, bydd yn gwneud rhai mwy na'r rheini, oherwydd fy mod i'n mynd at y Tad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, yr hwn sydd yn credu ynof fi, y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur, yntau hefyd a'u gwna: a mwy na'r rhai hyn a wna efe, oblegyd yr wyf fi yn myned at y Tâd.