John 14:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’ myvy a weðiaf ar y Tat, ac e ryð y chwy ddiðanwr arall, mal ydd aros ef y gyd a chwi yn tragyvyth,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac Myfi a ofynaf i’r Tad, a Diddanydd arall a rydd Efe i chwi,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a minnau a ofynnaf i’r tad, a dyry yntau i chwi un arall i fod gyda chwi yn blaid i chwi am byth,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi a weddïaf ar y Tad, ac efe a rydd i chwi Ddiddanydd arall, fel yr arhoso gyda chwi yn dragwyddol;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n gofyn i'r Tad, a bydd e'n rhoi un arall fydd yn sefyll gyda chi ac yn aros gyda chi am byth —
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac fe ofynnaf finnau i'm Tad, ac fe rydd ef i chwi Eiriolwr arall i fod gyda chwi am byth,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A mi a ofynaf i'r Tâd, ac efe a rydd i chwi Ddadleuydd arall, fel y byddo gyd â chwi yn dragywydd;