John 14:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ys ef Yspryt y gwirionedd, yr hwn ny ddychon y byt ei ðerbyn, cā na wyl y byt ef, ac na’d edwyn: a’ chvvi chwi y adwaenoch ef: can y vot ef yn trigo gyd a chwi, ac y‐noch y byð.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel y bo gyda chwi yn dragywydd, sef Yspryd y gwirionedd, yr Hwn ni all y byd Ei dderbyn am na wel Ef, ac nad adwaen efe Ef. Chwi a’i hadwaenoch Ef, gan mai gyda chwi y mae yn aros, ac ynoch y bydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ysbryd y gwirionedd, na all y byd ei dderbyn am nad ydyw yn ei weled na’i adnabod. Yr ydych chwi yn ei adnabod gan ei fod yn aros gyda chwi ac y bydd ynoch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ysbryd y gwirionedd, yr hwn ni ddichon y byd ei dderbyn, am nad yw yn ei weled, nac yn ei adnabod ef: ond chwi a'i hadwaenoch ef; oherwydd y mae yn aros gyda chwi, ac ynoch y bydd efe.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
sef yr Ysbryd sy'n dangos y gwir i chi. Dydy'r byd ddim yn gallu ei dderbyn am fod y byd ddim yn ei weld nac yn ei nabod. Ond dych chi yn ei nabod am ei fod yn sefyll gyda chi ac am ei fod yn mynd i fod ynoch chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ysbryd y Gwirionedd. Ni all y byd ei dderbyn ef, am nad yw'r byd yn ei weld nac yn ei adnabod ef; yr ydych chwi yn ei adnabod, oherwydd gyda chwi y mae'n aros ac ynoch chwi y bydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yspryd y Gwirionedd, yr hwn ni ddichon y byd ei dderbyn, am nad yw yn ei ganfod, nac yn ei adnabod ef: yr ydych chwi yn ei adnabod ef, o herwydd y mae efe yn aros gyd â chwi, ac ynoch chwi y mae efe.