John 14:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y neb ys ydd a’m gorchymyneu gantho, ac y ew cadw, ef yw’r hwn a’m car i: a’ hwn a’m car i, a gerir gan ve‐Tat: a’ mi y caraf ef, ac a ymddangosaf yddaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr hwn sydd a’m gorchymynion ganddo, ac yn eu cadw, hwnw yw’r hwn sydd yn Fy ngharu; a’r hwn a’m câr, a gerir gan Fy Nhad; ac Myfi a’i caraf ef, ac egluraf Fy hun iddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr hwn sydd a’m gorchmynion ganddo ac yn eu cadw, hwnnw sydd yn fy ngharu. Yr hwn sy’n fy ngharu i fe’i cerir gan fy nhad, a charaf innau ef, a mi a’m hamlygaf fy hunan iddo.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn sydd â'm gorchmynion i ganddo, ac yn eu cadw hwynt, efe yw'r hwn sydd yn fy ngharu i: a'r hwn sydd yn fy ngharu i, a gerir gan fy Nhad i: a minnau a'i caraf ef, ac a'm hegluraf fy hun iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y rhai sy'n derbyn beth dw i'n ei ddweud ac yn gwneud beth dw i'n ddweud ydy'r rhai sy'n fy ngharu i. Bydd y Tad yn caru y rhai sy'n fy ngharu i, a bydda i yn eu caru nhw hefyd, ac yn egluro fy hun iddyn nhw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pwy bynnag y mae fy ngorchmynion i ganddo, ac sy'n eu cadw hwy, yw'r un sy'n fy ngharu i. A'r un sy'n fy ngharu i, fe'i cerir gan fy Nhad, a byddaf finnau yn ei garu, ac yn f'amlygu fy hun iddo."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr hwn y mae ganddo fy Ngorchymynion, ac yn eu cadw hwynt, efe yw yr hwn sydd yn fy ngharu i; a'r hwn sydd yn fy ngharu i a gerir gan fy Nhâd, a minau a'i caraf ef, ac a wnaf fy hun yn amlwg iddo.