John 14:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Iudas a ddyvot wrthaw (nyd yr vn Iscariot) Arglwydd, pa beth yw’r achos yr ymddangosy i ni, ac ny d i’r byt?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedyd Wrtho a wnaeth Iwdas (nid yr Ishcariot), Arglwydd, pa beth yw’r achos mai i nyni yr wyt ar fedr egluro Dy hun, ac nid i’r byd?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd Iwdas wrtho — nid hwnnw o Gerioth —: “Arglwydd, a beth sy’n bod, dy fod yn myned i’th amlygu dy hun i ni ac nid i’r byd?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywedodd Jwdas wrtho, (nid yr Iscariot,) Arglwydd, pa beth yw'r achos yr wyt ar fedr dy eglurhau dy hun i ni, ac nid i'r byd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond, Arglwydd,” meddai Jwdas (dim Jwdas Iscariot), “Sut dy fod di am ddangos dy hun i ni ond ddim i'r byd?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai Jwdas wrtho (nid Jwdas Iscariot), "Arglwydd, beth sydd wedi digwydd i beri dy fod yn mynd i'th amlygu dy hun i ni, ac nid i'r byd?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dywed Judas wrtho, nid yr Iscariot, Arglwydd, pa beth sydd wedi dygwydd dy fod ar fedr gwneuthur dy hun yn amlwg i ni, ac nid o gwbl i'r byd?