John 14:23 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr Iesu atepawdd, ac a ddyvot wrthaw, A’s car nep myvi, ef a geidw vy‐gair, a’m Tat y car ef, a’ ni ddauwn ataw, ac a drigwn gyd ac ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrtho, Os neb a’m câr, Fy ngair a geidw efe; ac Fy Nhad a’i câr ef; ac atto y deuwn, a thrigfa gydag ef a wnawn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd Iesu a dywedodd wrtho: “Os yw neb yn fy ngharu i, fe geidw fy ngair, a châr fy nhad yntau, a deuwn ato a gwnawn ein trigfan gydag ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Os câr neb fi, efe a geidw fy ngair; a'm Tad a'i câr yntau, a nyni a ddeuwn ato, ac a wnawn ein trigfa gydag ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu, “Bydd y rhai sy'n fy ngharu i yn gwneud beth dw i'n ddweud wrthyn nhw. Bydd fy Nhad yn eu caru nhw, a byddwn ni'n dod atyn nhw i fyw gyda nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Iesu ef: "Os yw rhywun yn fy ngharu, bydd yn cadw fy ngair i, a bydd fy Nhad yn ei garu, ac fe ddown ato a gwneud ein trigfa gydag ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Os câr neb fi, efe a geidw fy ngair, a'm Tâd a'i câr ef, a ni a ddeuwn ato ef, ac a wnawn ein trigfa gyd âg ef.