John 14:24 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y nep ni’m car, ny chaidw vy‐geiriae, a’r gair yr hwn a glywch, nid yw veu, anid gair y Tat yr hwn am anvones.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr hwn nad yw yn Fy ngharu, Fy ngeiriau ni cheidw; ac y gair a glywch nid yw Fy eiddo I, eithr eiddo y Tad yr Hwn a’m danfonodd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr hwn nid yw’n fy ngharu, fy ngeiriau ni cheidw a’r gair yr ydych yn ei glywed nid yr eiddof i ydyw ond eiddo’r un a’m hanfonodd, y tad.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn nid yw yn fy ngharu i, nid yw yn cadw fy ngeiriau: a'r gair yr ydych yn ei glywed, nid eiddof fi ydyw, ond eiddo'r Tad a'm hanfonodd i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fydd pwy bynnag sydd ddim yn fy ngharu ddim yn gwneud beth dw i'n ddweud. A dim fy neges i fy hun dw i'n ei rhannu, ond neges gan y Tad sydd wedi fy anfon i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid yw'r sawl nad yw'n fy ngharu i yn cadw fy ngeiriau i. A'r gair hwn yr ydych chwi yn ei glywed, nid fy ngair i ydyw, ond gair y Tad a'm hanfonodd i.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr hwn nid yw yn fy ngharu i nid yw yn cadw fy ngeiriau: a'r gair yr ydych chwi yn ei glywed, nid eiddof fi ydyw, ond eiddo y Tâd a'm hanfonodd i.