John 14:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr y Diddanwr, ys ef yw yr Yspryt glan, yr hwn a ddenvyn y Tat yn vy Enw, efe a ddysc ychwy yr oll pethae, ac a ddwc ar gof y chwy yr oll pethae, a’r a ðywedeis y‐chwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond y Diddanydd, yr Yspryd Glân, yr Hwn a ddenfyn y Tad yn Fy enw, Efe a ddysg i chwi bob peth, ac a ddwg i’ch cof yr holl bethau a ddywedais wrthych.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond eich plaid, yr Ysbryd Glân, a enfyn y tad yn fy enw i, dysg hwnnw i chwi bopeth, a dwg ar gof i chwi bopeth a ddywedais i wrthych.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr y Diddanydd, yr Ysbryd Glân, yr hwn a enfyn y Tad yn fy enw i, efe a ddysg i chwi'r holl bethau, ac a ddwg ar gof i chwi'r holl bethau a ddywedais i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae un fydd yn sefyll gyda chi, sef yr Ysbryd Glân mae'r Tad yn mynd i'w anfon ar fy rhan. Bydd e'n dysgu popeth i chi ac yn eich atgoffa o bopeth dw i wedi ei ddweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond bydd yr Eiriolwr, yr Ysbryd Gln, a anfona'r Tad yn fy enw i, yn dysgu popeth ichwi, ac yn dwyn ar gof ichwi y cwbl a ddywedais i wrthych.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ond y Dadleuydd, yr Yspryd Glân, yr hwn a ddenfyn y Tâd yn fy enw i, efe a ddysg i chwi bob peth, ac a ddwg ar gof i chwi bob peth a ddywedais wrthych.