John 14:27 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Tāgneddyf a ’adawaf gyd a chwi: vy‐tangneddyf a roddaf ychwi: nyd mal y rhydd y byt, y rhodda vi ychwi. Na chynnyrfer eich calon, ac nac ofner.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Tangnefedd yr wyf yn ei adael i chwi; Fy nhangnefedd yr wyf yn ei roddi i chwi; nid fel y mae’r byd yn rhoddi, yr wyf Fi yn rhoddi i chwi. Na chynhyrfer eich calon, ac nad ofned.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Tangnefedd yr wyf yn ei adael i chwi, fy nhangnefedd i yr wyf yn ei roddi i chwi, nid fel y mae’r byd yn rhoddi yr wyf i yn rhoddi i chwi. Na chynhyrfer ac na lyfrhaed eich calon.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; fy nhangnefedd yr ydwyf yn ei roddi i chwi: nid fel y mae y byd yn rhoddi, yr wyf fi yn rhoddi i chwi. Na thralloder eich calon, ac nac ofned.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Heddwch — dyna dw i'n ei roi yn rhodd i chi; yr heddwch go iawn sydd gen i, a neb arall, i'w roi. Dw i ddim yn rhoi heddwch yn yr un ffordd a'r byd. Peidiwch cynhyrfu, a peidiwch bod yn llwfr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; yr wyf yn rhoi i chwi fy nhangnefedd i fy hun. Nid fel y mae'r byd yn rhoi yr wyf fi'n rhoi i chwi. Peidiwch gadael i ddim gynhyrfu'ch calon, a pheidiwch ag ofni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; fy nhangnefedd yr ydwyf yn ei roddi i chwi: nid fel y mae y byd yn rhoddi, yr wyf fi yn rhoddi i chwi. Na thralloder eich calon, ac na lwfrhäed.