John 14:28 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ys clywsoch moð y dywedais wrthych, Af ymaith, a’ dauaf atoch. Pe carech vi, ys llawenechech, can i mi ddywedyt, Af at y Tat: can ys mwy yw vy‐Tat no myvi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Clywsoch, canys Myfi a ddywedais wrthych, “Ciliaf, a deuaf attoch.” Pe carech Fi, llawenychech oherwydd myned o Honof at y Tad; canys y Tad, mwy na Myfi yw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Clywsoch fi’n dywedyd wrthych: ‘Yr wyf yn myned ac yr wyf yn dyfod atoch.’ Pe baech yn fy ngharu i, byddech yn llawenychu am fy mod yn myned at y tad, gan fod y tad yn fwy na mi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Clywsoch fel y dywedais wrthych, Yr wyf yn myned ymaith, ac mi a ddeuaf atoch. Pe carech fi, chwi a lawenhaech am i mi ddywedyd, Yr wyf yn myned at y Tad: canys y mae fy Nhad yn fwy na myfi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dych chi wedi clywed fi'n dweud, ‘Dw i'n mynd i ffwrdd, a dw i'n mynd i ddod yn ôl atoch chi.’ Petaech chi wir yn fy ngharu i, byddech yn falch fy mod i'n mynd at y Tad, achos mae'r Tad yn fwy na fi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Clywsoch beth a ddywedais i wrthych, 'Yr wyf fi yn ymadael chwi, ac fe ddof atoch chwi.' Pe baech yn fy ngharu i, byddech yn llawenhau fy mod yn mynd at y Tad, oherwydd y mae'r Tad yn fwy na mi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Clywsoch fel y dywedais wrthych, Yr wyf yn myned ymaith, ac yr wyf yn dyfod atoch. Pe carech fi, chwi a lawenhaêch am fy mod yn myned at y Tâd; canys y mae y Tâd yn fwy na myfi.