John 14:30 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn ol hyn ny ddywedaf ny‐mawr o pethae wrthych: can ys tywysawc y byt hwn ’sy yn dyvot, ac nid oes iddo ddim yno vi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Nid llawer peth mwyach a lefaraf gyda chwi, canys dyfod y mae llywodraethwr y byd, ac Ynof Fi nid oes iddo ddim:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Mwyach ni siaradaf lawer gyda chwi, canys y mae pennaeth y byd yn dyfod, ac ynof i nid oes ganddo ddim;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid ymddiddanaf â chwi nemor bellach: canys tywysog y byd hwn sydd yn dyfod, ac nid oes iddo ddim ynof fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Does gen i ddim llawer mwy o amser i siarad â chi, am fod Satan, tywysog y byd hwn, ar ei ffordd. Ond does ganddo ddim awdurdod drosof fi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni byddaf yn siarad llawer gyda chwi eto, oherwydd y mae tywysog y byd hwn yn dod. Nid oes ganddo ddim gafael arnaf fi,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ni lefaraf mwy lawer o bethau wrthych: canys Tywysog y byd sydd yn dyfod, ac ynof fi nid yw yn cael dim;