John 14:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Thomas a ðyvot wrthaw, Arglwyð, ny wyddam i b’le yð ai: a ph’wedd y gallom wybot y ffordd,?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedyd Wrtho a wnaeth Thomas, Arglwydd, nis gwyddom i ba le yr wyt yn cilio.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd Thomas wrtho: “Arglwydd, ni wyddom ni i ba le yr wyt yn myned; pa fodd y gwyddom y ffordd?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywedodd Thomas wrtho, Arglwydd, ni wyddom ni i ba le yr wyt ti yn myned; a pha fodd y gallwn wybod y ffordd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond Arglwydd,” meddai Tomos “dŷn ni ddim yn gwybod ble rwyt ti'n mynd, felly sut allwn ni wybod y ffordd yno?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai Thomas wrtho, "Arglwydd, ni wyddom i ble'r wyt yn mynd. Sut y gallwn wybod y ffordd?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dywed Thomas wrtho, Arglwydd, ni wyddom ni i ba le yr wyt ti yn myned; pa fodd y gwyddom y ffordd?