John 14:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr Iesu a ddyvot wrthaw, Bum gyd a chwi gyhyt o amser, ac nyd adnabuost vi, Philip? yrhwn a’m gwelawdd i, a welawdd vy‐Tat: a’ pha wedd y dywedy di dangos i ni d‐ y Tat?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedyd wrtho a wnaeth yr Iesu, Ai cyhyd o amser yr wyf gyda chwi, ac nid adnabuost Fi, Philip? Yr hwn a’m gwelodd I a welodd y Tad. Pa fodd yr wyt Ti yn dweud, “Dangos i ni y Tad?”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd yr Iesu wrtho: “A ydwyf gyda chwi ers cyhyd ac nid adnabuost fi, Phylip? Y neb a’m gwelodd i a welodd y tad. Sut y dywedi di ‘Dangos i ni ’r tad?’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iesu a ddywedodd wrtho, A ydwyf gyhyd o amser gyda chwi, ac nid adnabuost fi, Philip? Y neb a'm gwelodd i, a welodd y Tad: a pha fodd yr wyt ti yn dywedyd, Dangos i ni y Tad?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu: “Dw i wedi bod gyda chi i gyd ers cymaint o amser! Wyt ti'n dal ddim yn fy nabod i, Philip? Mae pwy bynnag sydd wedi fy ngweld i wedi gweld y Tad. Felly sut alli di ddweud, ‘Dangos y Tad i ni’?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Iesu ef, "A wyf wedi bod gyda chwi cyhyd heb i ti fy adnabod, Philip? Y mae'r sawl sydd wedi fy ngweld i wedi gweld y Tad. Sut y medri di ddweud, 'Dangos i ni y Tad'?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dywed yr Iesu wrtho, A ydwyf fi gyhyd o amser gyd â chwi, ac nid wyt wedi fy adnabod i, Philip? Yr hwn sydd wedi fy ngweled i sydd wedi gweled y Tâd; a pha fodd yr wyt ti yn dywedyd, Dangos i ni y Tâd?