John 15:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’s vy‐gorchymynion a gedwch, aros a wnewch’ yn vy‐cariat, megis ac y cedweis i ’orchmyniō vy‐Tat, ac ydd arosaf yn y gariat ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os Fy ngorchymynion a gedwch, arhoswch yn Fy nghariad; fel y cedwais I orchymynion Fy Nhad, ac yr wyf yn aros yn Ei gariad Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Arhoswch yn fy nghariad i. Os cedwch fy ngorchmynion i, byddwch yn aros yn fy nghariad, fel yr wyf i wedi cadw gorchmynion fy nhad ac yn aros yn ei gariad ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os cedwch fy ngorchmynion, chwi a arhoswch yn fy nghariad; fel y cedwais i orchmynion fy Nhad, ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddwch yn aros yn fy nghariad i drwy wneud beth dw i'n ei ddweud, fel dw i wedi bod yn ufudd i'm Tad ac wedi aros yn ei gariad e.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os cadwch fy ngorch-mynion fe arhoswch yn fy nghariad, yn union fel yr wyf fi wedi cadw gorchmynion fy Nhad, ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os cedwch fy Ngorchymynion, chwi a aroswch yn fy nghariad: megys yr wyf wedi cadw Gorchymynion fy Nhâd, ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef.