John 15:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y pethae hyn a ddywedeis wrthych, y n yd aroso vy llewenydd ynoch, a’ bot eich llawenydd yn gyflawn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y pethau hyn a leferais wrthych, fel y bo Fy llawenydd ynoch, ac i’ch llawenydd ei gyflawni.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Hyn a ddywedais wrthych fel y byddo fy llawenydd i ynoch ac y byddo’ch llawenydd chwi’n gyflawn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hyn a ddywedais wrthych, fel yr arhosai fy llawenydd ynoch, ac y byddai eich llawenydd yn gyflawn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i wedi dweud y pethau hyn er mwyn i chi fod yn llawen fel dw i'n llawen. Byddwch chi'n wirioneddol hapus!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Yr wyf wedi dweud hyn wrthych er mwyn i'm llawenydd i fod ynoch, ac i'ch llawenydd chwi fod yn gyflawn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y pethau hyn yr wyf wedi eu llefaru wrthych, fel y byddai fy llawenydd fy hun ynoch, ac fel y gwnelid eich llawenydd yn gyflawn.