John 15:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ny d chwy chvvi am d etholawdd i, eithyr mi vi ach d etholais chwi, ac ach darpareis chvvi, y vyned o hanoch a’ dwyn ffrwyth, a’ bot ich ffrwyth aros, val ba herh bynac a archoch ar y Tat yn vy Enw i, y rhoddo ef y‐chwi. Yr Euāgel ar ddydd Simon ac Iudas.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Nid chwi a’m dewisasoch I, eithr Myfi a ddewisais chwi, ac a’ch gosodais fel yr eloch chwi, a ffrwyth a ddygoch, ac y bo i’ch ffrwyth aros; fel pa beth bynnag a ofynoch gan y Tad, y rhoddo Efe i chwi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Nid chwi a’m dewisodd i, ond myfi a’ch dewisodd chwi, a gosodais chwi i fyned a dwyn ffrwyth ac aros o’ch ffrwyth fel, pa beth bynnag a ofynnoch gan y tad yn fy enw i, y rhoddo ef hynny i chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid chwi a'm dewisasoch i, ond myfi a'ch dewisais chwi, ac a'ch ordeiniais chwi, fel yr elech ac y dygech ffrwyth, ac yr arhosai eich ffrwyth; megis pa beth bynnag a ofynnoch gan y Tad yn fy enw i, y rhoddo efe i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dim chi ddewisodd fi; fi ddewisodd chi, i chi fynd allan a byw bywydau ffrwythlon — hynny ydy, yn llawn o'r ffrwyth sy'n aros. Ac i chi gael beth bynnag ofynnwch chi i'r Tad amdano gyda fy awdurdod i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid chwi a'm dewisodd i, ond myfi a'ch dewisodd chwi, a'ch penodi i fynd allan a dwyn ffrwyth, ffrwyth sy'n aros. Ac yna, fe rydd y Tad i chwi beth bynnag a ofynnwch ganddo yn fy enw i.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Nid chwi a'm dewisasoch i, ond myfi a'ch dewisais chwi, ac a'ch penodais chwi, fel yr eloch ymaith, ac y dygoch ffrwyth, ac yr erys eich ffrwyth: fel pa beth bynag a geisioch gan y Tâd yn fy enw i, y rhoddo efe i chwi.