John 15:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pe o’r byt y bysech, y byt a garei yr eiddo: a chan nad ych or byt, eithyr i mi ech ethol allan or byt, am hynny y casaa’r byt chwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os o’r byd y byddech, y byd a garai ei eiddo; ond gan nad o’r byd yr ydych, eithr Myfi a’ch dewisais allan o’r byd, o achos hyn eich casau y mae y byd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pe baech o’r byd, byddai’r byd yn caru ei eiddo ei hun, ond am nad ydych o’r byd, ond fy mod i wedi eich dewis allan o’r byd, am hynny y mae’r byd yn eich cashau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pe byddech o'r byd, y byd a garai'r eiddo; ond oblegid nad ydych o'r byd, eithr i mi eich dewis allan o'r byd, am hynny y mae'r byd yn eich casáu chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tasech chi'n perthyn i'r byd, byddai'r byd yn eich caru chi. Ond dych chi ddim yn perthyn i'r byd, achos dw i wedi eich dewis chi allan o'r byd, felly mae'r byd yn eich casáu chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pe baech yn perthyn i'r byd, byddai'r byd yn caru'r eiddo'i hun. Ond gan nad ydych yn perthyn i'r byd, oherwydd i mi eich dewis chwi allan o'r byd, y mae'r byd yn eich casu chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pe byddech o'r byd, y byd a hoffai yr eiddo: ond oblegyd nad ydych o'r byd, eithr i mi eich dewis chwi allan o'r byd, o achos hyn y mae y byd yn eich cashâu chwi.