John 15:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pob ca i ngen ny ddwc ffrwyth ynofi, ef ei tynn ymaith: a’ phob vn a ddwc ffrwyth, ef ei carth, mal hi dyco mwy o ffrwyth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pob cangen Ynof nad yw yn dwyn ffrwyth, cymmer Efe hi ymaith; a phob un y sy’n dwyn ffrwyth, ei glanhau y mae Efe, fel y dygo fwy o ffrwyth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pob cangen ynof i nad yw’n dwyn ffrwyth, fe dyrr honno ymaith, a phob un sy’n dwyn ffrwyth, fe lanha honno er mwyn iddi ddwyn mwy o ffrwyth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pob cangen ynof fi heb ddwyn ffrwyth, y mae efe yn ei thynnu ymaith: a phob un a ddygo ffrwyth, y mae efe yn ei glanhau, fel y dygo fwy o ffrwyth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n llifio i ffwrdd unrhyw gangen sydd heb ffrwyth yn tyfu arni. Ond os oes ffrwyth yn tyfu ar gangen, mae'n trin ac yn tocio'r gangen honno'n ofalus er mwyn i fwy o ffrwyth dyfu arni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae ef yn torri i ffwrdd bob cangen ynof fi nad yw'n dwyn ffrwyth, ac yn glanhau pob un sydd yn dwyn ffrwyth, er mwyn iddi ddwyn mwy o ffrwyth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pob cangen ynof fi nad yw yn dwyn ffrwyth, y mae efe yn ei chymmeryd ymaith; a phob un sydd yn dwyn ffrwyth, y mae efe yn ei thrwsio, fel y dygo fwy o ffrwyth.