John 15:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Coffewch y gair a ddwedais ychwy, Nid mwy gwas na ei Arglwydd. A’s erliedesont vi, wy ach erlidiant chwi hefyt: a’s vy‐gair i a gatwasant, wy gatwant eich gair chwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Cofiwch yr ymadrodd a ddywedais I wrthych, Nid yw’r gwas yn fwy na’i arglwydd. Os Myfi a erlidiasant, chwychwi hefyd a erlidiant: os Fy ngair I a gadwasant, yr eiddoch chwithau hefyd a gadwant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Cofiwch y gair a ddywedais wrthych, ‘Nid yw’r gwas yn fwy na’i feistr.’ Os erlidiasant fi, chwithau hefyd a erlidiant; os cadwasant fy ngair i, eich gair chwithau a gadwant hefyd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cofiwch yr ymadrodd a ddywedais i wrthych; Nid yw'r gwas yn fwy na'i arglwydd. Os erlidiasant fi, hwy a'ch erlidiant chwithau: os cadwasant fy ngair i, yr eiddoch chwithau hefyd a gadwant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cofiwch beth ddwedais i wrthoch chi: ‘Dydy caethwas ddim uwchlaw ei feistr.’ Os ydyn nhw wedi fy erlid i, byddan nhw'n eich erlid chithau hefyd. Os ydyn nhw wedi gwneud beth dw i'n ei ddweud wrthyn nhw, byddan nhw'n gwneud beth dych chi'n ei ddweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cofiwch y gair a ddywedais i wrthych: 'Nid yw unrhyw was yn fwy na'i feistr.' Os erlidiasant fi, fe'ch erlidiant chwithau; os cadwasant fy ngair i, fe gadwant yr eiddoch chwithau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Cofiwch yr ymadrodd a ddywedais wrthych: Nid yw y gwas yn fwy na'i arglwydd. Os erlidiasant fi, chwithau hefyd a erlidiant: os cadwasant fy ngair i, yr eiddoch chwithau hefyd a gadwant.