John 15:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pe byswn eb ddyvot, ac eb ymddiddan ac wynt, ny byddei arnynt pechat: an’d yr owrhon nid oes yddwyut liw ymescus.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pe na ddelswn a llefaru wrthynt, pechod ni fuasai arnynt; ond yr awrhon nid oes esgus ganddynt am eu pechod.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Onibai i mi ddyfod a siarad wrthynt, ni buasai arnynt bechod; ond yn awr esgus nid oes ganddynt am eu pechod.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oni bai fy nyfod a llefaru wrthynt, ni buasai arnynt bechod: ond yr awron nid oes ganddynt esgus am eu pechod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Petawn i heb ddod a siarad â nhw, fydden nhw ddim yn euog o bechod. Ond bellach, does ganddyn nhw ddim esgus am eu pechod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pe buaswn i heb ddod a llefaru wrthynt, ni buasai ganddynt bechod. Ond yn awr nid oes ganddynt esgus am eu pechod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Oni bai fy nyfod a llefaru wrthynt, ni buasai arnynt bechod: ond yn awr nid oes ganddynt esgus am eu pechod.