John 15:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’ chwi destoliaethwch hefyt, can eich bot o’r dechraeat gyd a mi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a chwychwi a dystiolaethwch, canys o’r dechreuad yr ydych gyda Mi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac yr ydych chwithau’n tystio gan eich bod gyda mi o’r dechreu.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chwithau hefyd a dystiolaethwch, am eich bod o'r dechreuad gyda mi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A byddwch chi'n dweud amdana i hefyd, am eich bod wedi bod gyda mi o'r dechrau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yr ydych chwi hefyd yn tystiolaethu, am eich bod gyda mi o'r dechrau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac yr ydych chwithau hefyd yn tystiolaethu, am eich bod o'r dechreuad gyd â mi.