John 15:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Aroswch ynof, a’ mi ynoch: megis na all y ga i ngen ddwyn ffrwyth o hanei ehun, a nyd erys yn y winwydden, velly ny d ’ellwch chwi, anyd aroswch ynof.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Arhoswch Ynof, ac Myfi ynoch chwi. Fel nad yw’r gangen yn abl i ddwyn ffrwyth o honi ei hun os nad erys yn y winwydden, felly ni ellwch chwithau os nad Ynof yr arhoswch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Arhoswch ynof, a minnau ynoch chwithau. Fel na all y gangen ddwyn ffrwyth ohoni ei hun onid erys yn y winwydden, felly ni ellwch chwithau chwaith, onid arhoswch ynof i.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Arhoswch ynof fi, a mi ynoch chwi. Megis na all y gangen ddwyn ffrwyth ohoni ei hun, onid erys yn y winwydden; felly ni ellwch chwithau, onid arhoswch ynof fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Arhoswch ynof fi, ac arhosa i ynoch chi. Fydd ffrwyth ddim yn tyfu ar gangen oni bai ei bod hi'n dal ar y winwydden. All eich bywydau chi ddim bod yn ffrwythlon oni bai eich bod chi wedi eich cysylltu â mi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Arhoswch ynof fi, a minnau ynoch chwi. Ni all y gangen ddwyn ffrwyth ohoni ei hun, heb iddi aros yn y winwydden; ac felly'n union ni allwch chwithau heb i chwi aros ynof fi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Aroswch ynof fi, a mi ynoch chwi. Megys na all y gangen ddwyn ffrwyth o honi ei hun, onid erys yn y winwydden: felly ni ellwch chwithau, onid aroswch ynof fi.