John 15:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
An’d erys vn ynofi, e a tavlwyt allan val cangē, ac a wywa: ac y cesclir wy, ac ei tavlir yn tan, ac ei lloscir.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Onid erys un Ynof, bwrir ef allan, fel y gangen, a gwywa: a chasglant hwynt, ac i’r tân y’u bwriant, a llosgir hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Onid erys un ynof i, y mae wedi ei fwrw allan fel y gangen ac wedi gwywo, ac y maent yn casglu’r rhain ac yn eu taflu i’r tân ac fe’u llosgir.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Onid erys un ynof fi, efe a daflwyd allan megis cangen, ac a wywodd; ac y maent yn eu casglu hwynt, ac yn eu bwrw yn tân, a hwy a losgir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os gwnewch chi ddim aros ynof fi, byddwch fel y gangen sy'n cael ei thaflu i ffwrdd ac sy'n gwywo. Mae'r canghennau hynny'n cael eu casglu a'u taflu i'r tân i'w llosgi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os na fydd rhywun yn aros ynof fi, caiff ei daflu i ffwrdd fel y gangen ddiffrwyth, ac fe wywa; dyma'r canghennau a gesglir, i'w taflu i'r tn a'u llosgi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Onid erys un ynof fi, efe a daflwyd tu allan, fel y gangen, ac a wywodd allan: ac y maent yn eu casglu hwynt ynghyd, ac yn eu bwrw i'r tân, ac y maent yn llosgi!