John 15:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mal y carawdd y Tat vi, velly y ceraisi chwi: trigwch yn vy‐cariat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Fel y carodd y Tad Fi, Minnau hefyd a’ch cerais chwi. Arhoswch yn Fy nghariad I.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Fel y carodd y tad fi, felly hefyd y cerais innau chwithau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel y carodd y Tad fi, felly y cerais innau chwithau: arhoswch yn fy nghariad i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dw i wedi'ch caru chi yn union fel mae'r Tad wedi fy ngharu i. Arhoswch yn fy nghariad i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel y mae'r Tad wedi fy ngharu i, yr wyf finnau wedi eich caru chwi. Arhoswch yn fy nghariad i.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Fel y carodd y Tâd fi, minau hefyd a'ch cerais chwi. Aroswch yn fy nghariad fy hun.