John 16:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Oll bethe ’sy eiddo y Tat ’sy veu vi: am hynny y dywedais, mai o’r meu vi y cymer ef, ac eu menaic y‐chwy. Yr Euangel y iij. Sul gwedy yr Pasc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr holl bethau, cynnifer ag sydd gan y Tad, eiddof Fi ydynt; o achos hyn y dywedais, “O’r eiddof Fi y derbyn, ac y mynega i chwi.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eiddof i y cwbl sydd gan y tad; dyna paham y dywedais ei fod yn cymryd o’m heiddo i ac y bydd yn ei hysbysu i chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr holl bethau sydd eiddo'r Tad, ydynt eiddof fi: oherwydd hyn y dywedais, mai o'r eiddof fi y cymer, ac y mynega i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae popeth sydd gan y Tad yn eiddo i mi hefyd, a dyna pam dw i'n dweud y bydd yr Ysbryd yn cymryd beth dw i'n ei ddweud a'i rannu gyda chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae pob peth sydd gan y Tad yn eiddo i mi. Dyna pam y dywedais ei fod yn cymryd o'r hyn sy'n eiddo i mi ac yn ei fynegi i chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pob peth bynag sydd eiddo y Tâd ydynt eiddo fi: o herwydd hyn y dywedais mai o'r eiddo fi y mae efe yn cymmeryd ac y mynega i chwi.