John 16:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot rei o’r discipulon wrthyn, y gylydd, Beth yw hynn a ddyweit ef wrthym, Ychydic enhyt, ac ny’m gwelwch, a’ thrachefyn, ychydic enhyd, a’ chvvi am gwelwch, ac, Can ys mi vi a at v y‐Tat?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedodd, gan hyny, rai o’i ddisgyblion wrth eu gilydd, Pa beth yw hyn a ddywaid Efe wrthym, “Ychydig ennyd ac ni’m gwelwch, a thrachefn ychydig ennyd a gwelwch Fi,” a “Cilio yr wyf at y Tad?”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly dywedodd rhai o’i ddisgyblion wrth ei gilydd: “Beth yw hyn a ddywed wrthym? — ‘Ychydig amser ac ni’m gwelwch, ac ychydig amser wedyn, a chwi a’m gwelwch,’ ac ‘Yr wyf yn myned at y tad?’”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny y dywedodd rhai o'i ddisgyblion wrth ei gilydd, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd wrthym, Ychydig ennyd, ac ni'm gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a'm gwelwch: ac, Am fy mod yn myned at y Tad?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'i ddisgyblion yn gofyn i'w gilydd, “Beth mae'n ei olygu wrth ddweud, ‘Yn fuan iawn bydda i wedi mynd, a fyddwch chi ddim yn fy ngweld i ddim mwy. Yna'n fuan iawn wedi hynny byddwch yn fy ngweld eto’? A beth mae ‘Am fy mod i'n mynd at y Tad’ yn ei olygu?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna meddai rhai o'i ddisgyblion wrth ei gilydd, "Beth yw hyn y mae'n ei ddweud wrthym, 'Ymhen ychydig amser, ni byddwch yn fy ngweld i, ac ymhen ychydig amser wedyn, fe fyddwch yn fy ngweld', ac 'Oherwydd fy mod i'n mynd at y Tad'?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dywedodd gan hyny rai o'i Ddysgyblion wrth eu gilydd, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd wrthym, Ychydig enyd ac ni'm gwelwch; a thrachefn ychydig enyd a chwi a'm gwelwch; ac, Am fy mod yn myned at y Tâd?