John 16:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can hyny y dywed e sont, Beth yw hyn a ddyweit ef, Ychydic enhyt? ny’ s gwyddam pa beth a ddywet ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny y dywedasant, Pa beth yw hyn a ddywaid Efe, “Ychydig ennyd?” Nis gwyddom pa beth a ddywaid Efe.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Meddent hwy felly: “Beth yw’r ychydig amser hwn y mae’n sôn amdano? Ni wyddom ni pa beth y mae’n ei ddywedyd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny hwy a ddywedasant, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd, Ychydig ennyd? ni wyddom ni beth y mae efe yn ei ddywedyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Beth ydy ystyr ‘Yn fuan iawn’? Dŷn ni ddim yn deall.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Beth," meddent, "yw'r 'ychydig amser' yma y mae'n sn amdano? Nid ydym yn deall am beth y mae'n siarad."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan hyny y dywedasant, Pa beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd, Ychydig enyd? Ni wyddom ni beth y mae yn ei lefaru.