John 16:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a wybu y chwenychent ymofyn ac ef, ac a ddyvot wrthynt, Ai ymofyn ydd ych ai gylydd am ddywedyt o hanof hyn, Ychydic enhyt, ac ny’m gwelwch: a thrachefyn, ychydic enhyt, a’ chvvi a’m gwelwch?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwybu yr Iesu yr ewyllysient ofyn Iddo, a dywedodd wrthynt, Ai am hyn yr ymofynwch â’ch gilydd, am ddywedyd o Honof, “Ychydig ennyd ac ni’m gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd a gwelwch Fi:”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwybu Iesu eu bod yn dymuno ei holi, a dywedodd wrthynt: “Ai ynghylch hyn yr ydych yn ymofyn gyda’ch gilydd, am fy mod i wedi dywedyd, ‘Ychydig amser ac ni’m gwelwch, ac ychydig amser wedyn a chwi a’m gwelwch’?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y gwybu'r Iesu eu bod hwy yn ewyllysio gofyn iddo; ac a ddywedodd wrthynt, Ai ymofyn yr ydych â'ch gilydd am hyn, oblegid i mi ddywedyd, Ychydig ennyd, ac ni'm gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a'm gwelwch?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Iesu'n gwybod eu bod nhw eisiau gofyn iddo am hyn, felly meddai wrthyn nhw, “Dych chi'n trafod beth dw i'n ei olygu wrth ddweud, ‘Yn fuan iawn bydda i wedi mynd, a fyddwch chi ddim yn fy ngweld i ddim mwy. Yna'n fuan iawn wedyn byddwch yn fy ngweld eto.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Sylweddolodd Iesu eu bod yn awyddus i'w holi, ac meddai wrthynt, "Ai dyma'r hyn yr ydych yn ei drafod gyda'ch gilydd, fy mod i wedi dweud, 'Ymhen ychydig amser, ni byddwch yn fy ngweld i, ac ymhen ychydig amser wedyn, fe fyddwch yn fy ngweld'?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Iesu a wybu eu bod hwy yn ewyllysio gofyn iddo, a ddywedodd wrthynt, Ai am hyn yr ydych yn ymofyn â'ch gilydd oblegyd i mi ddywedyd, Ychydig enyd ac ni'm gwelwch i, a thrachefn, Ychydig enyd a chwi a'm gwelwch?