John 16:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hwy ach escommunant chwi: and e ðaw ’r amser, y bydd i pwy pynac ach lladdo, dybiet y vot yn gwneuthu’r gwasanaeth y Dduw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Allan o’r sunagogau y rhoddant chwi; eithr dyfod y mae’r awr y bydd i bob un a’ch lladdo, dybio mai gwasanaeth a offrwm efe i Dduw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
torrant chwi allan o’r synagog, ac yn wir mae’r adeg yn dyfod i bob un a’ch lladdo dybied ei fod yn dwyn offrwm i Dduw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwy a'ch bwriant chwi allan o'r synagogau: ac y mae'r awr yn dyfod, y tybia pwy bynnag a'ch lladdo, ei fod yn gwneuthur gwasanaeth i Dduw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddwch chi'n cael eich diarddel o'r synagog. Ac mae'r amser yn dod pan bydd pobl yn meddwl eu bod nhw'n gwneud ffafr i Dduw trwy eich lladd chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe'ch torrant chwi allan o'r synagogau; yn wir y mae'r amser yn dod pan fydd pawb fydd yn eich lladd chwi yn meddwl ei fod yn offrymu gwasanaeth i Dduw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Hwy a'ch esgymunant o'r Synagog: ie y mae yr awr yn dyfod, y tybia yr hwn a'ch lladdo ei fod yn offrymu gwasanaeth i Dduw.