John 16:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn wir, yn wir ydywedaf wrthych, y bydd y chwi wylo ac alaru, a’r byd a lawenha: a’ chwi a dristewch, eithyr eich tristit a dd ymchwelir yn llawenydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Gwylo a galaru a wnewch chwi, ond y byd a lawenycha; chwi a dristheir, ond eich tristwch a droir yn llawenydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ar fy ngwir, meddaf i chwi, byddwch chwi’n wylo ac yn galarnadu, ond bydd y byd yn llawenhau. Byddwch chwi’n gofidio ond try eich gofid yn llawenydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Chwi a wylwch ac a alerwch, a'r byd a lawenycha: eithr chwi a fyddwch dristion; ond eich tristwch a droir yn llawenydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Credwch chi fi, Byddwch chi'n galaru ac yn crïo tra bydd y byd yn dathlu. Byddwch yn drist go iawn, ond bydd y tristwch yn troi'n llawenydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, y byddwch chwi'n wylo ac yn galaru, a bydd y byd yn llawenhau. Byddwch chwi'n drist, ond fe droir eich tristwch yn llawenydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, chwi a wylwch allan ac a gwynfanwch, ond y byd a lawenycha: chwi a fyddwch drist, ond eich tristwch a ddaw yn llawenydd.