John 16:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwraic wrth escor‐dyn‐bach vydd mewn trystit, can ddyvot y h’awr: eithyr gwedy geni yði ’r dyn‐bach, ny chofia hi mwy ach o’r gofit, gan lawenydd geni dyn ir byt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwraig wrth esgor, sydd a thristwch arni oherwydd dyfod ei hawr; ond wedi geni y plentyn, ni chofia mwyach ei gofid o achos ei llawenydd am y ganwyd dyn i’r byd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y mae gofid ar wraig pan fo’n esgor am fod ei hamser wedi dyfod, ond pan enir y plentyn, ni chofia hi ddim o’i thrallod mwy gan ei llawenydd o eni dyn i’r byd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwraig wrth esgor sydd mewn tristwch, am ddyfod ei hawr: eithr wedi geni'r plentyn, nid yw hi'n cofio'i gofid mwyach, gan lawenydd geni dyn i'r byd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae gwraig mewn poen pan mae'n cael babi, ond mae hi mor llawen pan mae ei babi wedi cael ei eni mae hi'n anghofio'r poen!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae gwraig mewn poen wrth esgor, gan fod ei hamser wedi dod. Ond pan fydd y baban wedi ei eni, nid yw hi'n cofio'r gwewyr ddim mwy gan gymaint ei llawenydd fod plentyn wedi ei eni i'r byd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y wraig wrth esgor sydd mewn tristwch, am ddyfod ei hawr hi; ond wedi rhoddi genedigaeth i'r plentyn, nid yw mwyach yn cofio ei chyfyngder o herwydd y llawenydd, am eni dyn i'r byd.