John 16:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ chwi the gā hyny yd ych mewn tristit: eithyr e vydd ym’ eich gwelet drachefyn, a’ch calonae a lawenycha, ach llewenydd ny’s dwc nep y arnoch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chwithau, gan hyny, yn awr yn wir tristwch sydd genych, ond eilchwyl y gwelaf chwi, a llawenycha eich calon, a’ch llawenydd ni ddwg neb oddi arnoch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chwithau felly, y mae gofid arnoch yn awr, ond mi a’ch gwelaf eto, a bydd eich calon yn llawen, a’ch llawenydd chwi ni chymer neb oddiarnoch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chwithau am hynny ydych yr awron mewn tristwch: eithr mi a ymwelaf â chwi drachefn, a'ch calon a lawenycha, a'ch llawenydd ni ddwg neb oddi arnoch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yr un fath gyda chi: Dych chi'n teimlo'n drist ar hyn o bryd. Ond bydda i yn eich gweld chi eto a byddwch chi'n dathlu, a fydd neb yn gallu dwyn eich llawenydd oddi arnoch chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly chwithau, yr ydych yn awr mewn tristwch. Ond fe'ch gwelaf chwi eto, ac fe lawenha eich calon, ac ni chaiff neb ddwyn eich llawenydd oddi arnoch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chwithau gan hyny yr ydych yn awr mewn tristwch: ond drachefn mi a'ch gwelaf chwi, a'ch calon a lawenycha, a'ch llawenydd ni ddwg neb oddi arnoch.