John 16:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r dydd hwnw ny d erchwch ddim arnaf. Yr Euangel y v. Sul gwedy’r Pasc. Yn wir, yn wir y dywedaf y chwy, pa bethae bynac a archoch ar v y‐Tat yn vy Enw i, ef ei rhydd y ychwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r dydd hwnw Genyf Fi ni ofynwch ddim. Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yn y dydd hwnnw ni ofynnwch gwestiwn i mi. Ar fy ngwir, meddaf i chwi, os gofynnwch ddim gan y tad, fe’i rhydd i chwi yn f’enw i.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r dydd hwnnw ni ofynnwch ddim i mi. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pa bethau bynnag a ofynnoch i'r Tad yn fy enw, efe a'u rhydd i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fydd dim cwestiynau gynnoch chi i'w gofyn y diwrnod hwnnw. Credwch chi fi, bydd fy Nhad yn rhoi i chi beth bynnag a ofynnwch i mi am awdurdod i'w wneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y dydd hwnnw ni byddwch yn holi dim arnaf. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, beth bynnag a ofynnwch gan y Tad yn fy enw i, bydd ef yn ei roi ichwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn y dydd hwnw ni ofynwch ddim i mi. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, os ceisiwch gan y Tâd, efe a'i rhydd i chwi yn fy enw i.