John 16:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y pethe hyn a a droddeis wrthych ym‐parabolae: and e ddawr amser, pryd na d ym adrodwyf mwy ach wrthych ym‐parabolae: eithyr menagaf ywch yn eglur am y Tat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y pethau hyn, mewn damhegion y’u lleferais wrthych. Dyfod y mae’r awr pan nid mewn damhegion y llefaraf mwyach wrthych, eithr yn eglur y mynegaf am y Tad wrthych.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Hyn a ddywedais wrthych ar ddamegion. Y mae’r adeg yn dyfod pan na siaradaf wrthych ar ddamegion mwyach, ond hysbysaf i chwi am y tad yn eglur.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y pethau hyn a leferais wrthych mewn damhegion: eithr y mae'r awr yn dyfod, pan na lefarwyf wrthych mewn damhegion mwyach, eithr y mynegaf i chwi yn eglur am y Tad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dw i wedi bod yn defnyddio darluniau wrth siarad â chi hyd yn hyn, ond mae'r amser yn dod pan fydd dim angen gwneud hynny. Bydda i'n gallu siarad yn blaen gyda chi am fy Nhad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Yr wyf wedi dweud y pethau hyn wrthych ar ddamhegion. Y mae amser yn dod pan na fyddaf yn siarad wrthych ar ddamhegion ddim mwy, ond yn llefaru wrthych yn gwbl eglur am y Tad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y pethau hyn yr wyf wedi eu llefaru wrthych mewn alegoriau: y mae yr awr yn dyfod, pan na lefaraf wrthych mwyach mewn alegoriau, eithr yn ddigêl y mynegaf i chwi am y Tâd.