John 16:29 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Dywedawð eu ddiscipulon wrthaw, Wele ’r awrhon yr ymadroddy yn eglur, ac ny ddywedy vn parabol.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedodd Ei ddisgyblion, Wele, yn awr, yn eglur y lleferi, ac nid dammeg o gwbl a ddywedi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd ei ddisgyblion: “Dyma di yn awr yn siarad yn eglur, ac nid dameg yr wyt yn ei dywedyd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ei ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Wele, yr wyt ti yn awr yn dywedyd yn eglur, ac nid wyt yn dywedyd un ddameg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Nawr rwyt ti'n siarad yn blaen!” meddai'r disgyblion. “Dim darluniau i'w dehongli.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai ei ddisgyblion ef, "Dyma ti yn awr yn siarad yn gwbl eglur; nid ar ddameg yr wyt yn llefaru mwyach.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dywed ei Ddysgyblion, Wele, yn awr yr wyt ti yn siarad yn ddigêl, ac nid wyt yn dywedyd un alegori.