John 16:30 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr owrhon y gwyddam y gwyddosti bop peth oll, ac ny d rait yty ymofyn o nep athi. Wrth hyn y gwyddam, ddyvot o hanot allan ywrth Dduw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn awr y gwyddom y gwyddost bob peth, ac nad oes Genyt raid i neb ofyn i Ti; wrth hyn y credwn mai oddiwrth Dduw y daethost allan.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn awr gwyddom dy fod yn gwybod popeth, ac nad oes angen arnat i neb dy holi. Am hyn yr ydym yn credu mai oddiwrth Dduw y daethost allan.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn awr y gwyddom y gwyddost bob peth, ac nid rhaid i ti ymofyn o neb â thi: wrth hyn yr ydym yn credu ddyfod ohonot allan oddi wrth Dduw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni'n gweld bellach dy fod di'n gwybod pob peth. Does dim rhaid i ti ofyn i unrhyw un beth maen nhw'n ei feddwl hyd yn oed. Mae hynny'n ddigon i wneud i ni gredu dy fod di wedi dod oddi wrth Dduw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr fe wyddom dy fod yn gwybod pob peth, ac nad oes arnat angen i neb dy holi. Dyna pam yr ydym yn credu dy fod wedi dod oddi wrth Dduw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn awr y gwyddom y gwyddost bob peth, ac nad oes angen arnat i neb ofyn i ti: wrth hyn yr ydym yn credu ddyfod o honot allan oddi wrth Dduw.