John 16:32 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nacha, yr awr yn dy vot, ac ’sy eisioes wedi dyuot, pan ich goyscerer pawp at yr eiddaw, ac i m gedwch vi yn vnic: ac nyd wyf yn vnic: can y Tat ys y gyd a mi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wele, dyfod y mae’r awr, a daeth, y gwasgerir chwi, bob un, at yr eiddo, ac Myfi a adewch yn unig. Ac nid wyf yn unig, canys y Tad sydd gyda Mi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dyma’r adeg yn dyfod, yn wir wedi dyfod, y gwasgent chwi bob un at ei bethau, a gadewch fi’n unig.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele, y mae'r awr yn dyfod, ac yr awron hi a ddaeth, y gwasgerir chwi bob un at yr eiddo, ac y gadewch fi yn unig: ac nid wyf yn unig, oblegid y mae'r Tad gyda myfi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae'r amser yn dod, yn wir mae yma, pan fyddwch chi'n mynd ar chwâl. Bydd pob un ohonoch chi'n mynd adre, a byddwch yn fy ngadael i ar fy mhen fy hun. Ond dw i ddim wir ar fy mhen fy hun, am fod fy Nhad gyda fi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Edrychwch, y mae amser yn dod, yn wir y mae wedi dod, pan gewch eich gwasgaru bob un i'w le ei hun, a'm gadael i ar fy mhen fy hun. Ac eto, nid wyf ar fy mhen fy hun, oherwydd y mae'r Tad gyda mi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Wele, y mae yr Awr yn dyfod, ie y mae wedi dyfod, y gwasgerir chwi, bob un at yr eiddo, ac y gadêwch fi yn unig: ac nid wyf yn unig, oblegyd y mae y Tâd gyd â mi.