John 16:33 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y pethe hyn a lavaris wrthych, y ga ff ael o hanoch ynof dangneddyf: yn y byt y ceffwch orthrymder, eithr byddwch o confort da: mi vi a ’orchyvygeis y byt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y pethau hyn a leferais wrthych, fel Ynof y bo tangnefedd genych: yn y byd, gorthrymder a gewch; eithr byddwch hyderus; Myfi a orchfygais y byd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac eto nid wyf yn unig, gan fod y tad gyda mi. Hyn a ddywedais wrthych fel y byddo gennych dangnefedd ynof i. Yn y byd, adfyd sydd i chwi, ond codwch eich calonnau, yr wyf i wedi gorchfygu’r byd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y pethau hyn a ddywedais wrthych fel y caffech dangnefedd ynof. Yn y byd gorthrymder a gewch: eithr cymerwch gysur, myfi a orchfygais y byd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dw i wedi dweud y pethau hyn wrthoch chi, er mwyn i chi gael yr heddwch go iawn sydd ynof fi. Dim ond trafferthion gewch chi yn y byd hwn. Ond codwch eich calonnau, dw i wedi concro'r byd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf wedi dweud hyn wrthych er mwyn i chwi, ynof fi, gael tangnefedd. Yn y byd fe gewch orthrymder, ond codwch eich calon, yr wyf fi wedi gorchfygu'r byd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y pethau hyn yr wyf wedi eu llefaru wrthych, fel y caffech dangnefedd ynof fi. Yn y byd yr ydych yn cael gorthrymder: ond ymgalonogwch; yr wyf fi wedi gorchfygu y byd.