John 16:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr y pethe hyn a ddywedais ychwy, val pan ddel yr awr, y cofioch, dd arvot i mi ddywedyt hyny y‐chwy. A’r pethe hyn ny’ s d d ywedais y chwy o’r dechreuat, o bleit vy‐bot y gyd a chwi. Yr Euangel y iiij. Sul gwedy yr Pasc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr y pethau hyn a leferais wrthych, fel pan ddel eu hawr, y cofioch hwynt, y dywedais I wrthych. Y pethau hyn ni ddywedais wrthych o’r dechreuad, gan mai gyda chwi yr oeddwn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r pethau hyn a ddywedais wrthych er mwyn i chwi eu cofio, pan ddaw eu hadeg, fy mod wedi eu dywedyd wrthych. Nis dywedais hwynt wrthych ar y dechreu, am fy mod gyda chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr y pethau hyn a ddywedais i chwi, fel pan ddêl yr awr, y cofioch hwynt, ddarfod i mi ddywedyd i chwi: a'r pethau hyn ni ddywedais i chwi o'r dechreuad, am fy mod gyda chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dw i wedi dweud hyn i gyd wrthoch chi, wedyn pan ddaw'r amser hwnnw byddwch chi'n cofio fy mod i wedi eich rhybuddio chi. Wnes i ddim dweud hyn wrthoch chi ar y dechrau am fy mod i wedi bod gyda chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr wyf wedi dweud y pethau hyn wrthych er mwyn ichwi gofio, pan ddaw'r amser iddynt ddigwydd, fy mod i wedi eu dweud wrthych. "Ni ddywedais hyn wrthych o'r dechrau, oherwydd yr oeddwn i gyda chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ie y pethau hyn yr wyf wedi eu llefaru wrthych, fel pan ddêl eu hawr hwy, y cofiwch hwynt, mai mi fy hun a ddywedodd i chwi: a'r pethau hyn ni ddywedais i chwi o'r dechreuad, am fy mod i gyd â chwi.