John 16:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr mi a ddywedaf y chwi ’r gwirionedd, lles yw ychwy vy myned i ymaith: o bleit a ny d af ymaith, ny ddaw y Diddanwr atoch: eithr a’s af ymaith, mi ei d anvonaf atoch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr Myfi a ddywedais y gwirionedd i chwi. Buddiol yw i chwi Fy myned I ymaith, canys onid af ymaith, y Diddanydd ni ddaw attoch; ond os af, danfonaf Ef attoch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond yr wyf i’n dywedyd y gwir wrthych; y mae’n lles i chwi fy myned i ymaith, canys onid af, ni ddaw eich plaid atoch. Ond os af, anfonaf ef atoch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond yr wyf fi yn dywedyd gwirionedd i chwi; Buddiol yw i chwi fy myned i ymaith: canys onid af fi, ni ddaw'r Diddanydd atoch; eithr os mi a af, mi a'i hanfonaf ef atoch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond credwch chi fi: Mae o fantais i chi fy mod i'n mynd i ffwrdd. Os wna i ddim mynd, fydd yr un sy'n sefyll gyda chi ddim yn dod; ond pan af fi, bydda i'n ei anfon atoch chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf fi'n dweud y gwir wrthych: y mae'n fuddiol i chwi fy mod i'n mynd ymaith. Oherwydd os nad af, ni ddaw'r Eiriolwr atoch chwi. Ond os af, fe'i hanfonaf ef atoch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond yr wyf fi yn dywedyd y gwirionedd i chwi: Buddiol yw i chwi ymadael o honof: canys onid ymadawaf, y Dadleuydd ni ddaw atoch o gwbl, ond os âf fy ffordd, mi a'i hanfonaf ef atoch.