John 17:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r oll vau yyn tau, a’r tau yyn vau, ac im gogoneddir ynddynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r eiddof Fi oll, eiddot Ti yw, a’th eiddot Ti yn eiddof Fi; a gogoneddwyd Fi ynddynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a’r eiddof i oll, yr eiddot ti ydyw, a’r eiddot ti, yr eiddof i, ac yr wyf wedi fy ngogoneddu ynddynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r eiddof fi oll sydd eiddot ti, a'r eiddot ti sydd eiddof fi: a mi a ogoneddwyd ynddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dy bobl di ydy pawb sydd gen i, a'm pobl i ydy dy bobl di, a dw i'n cael fy anrhydeddu trwyddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae popeth sy'n eiddof fi yn eiddot ti, a'r eiddot ti yn eiddof fi. Ac yr wyf fi wedi fy ngogoneddu ynddynt hwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r holl bethau ydynt eiddof fi sydd eiddot ti, a'r pethau sydd eiddot ti sydd eiddof fi, ac yr wyf wedi fy ngogoneddu ynddynt.