John 17:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yrowrhon ny d wyf mwy ach yn y byt, eithyr bot rhei ’n yn byt, a’ mi ’sy yn dyuot atat. Y Tat sanct, cadw h wy yn dy Enw, ’sef yr ei a roðeist ymy, yn y vont vn, val ydd ym ni.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac nid wyf mwyach yn y byd; ond y rhai hyn, yn y byd y maent; ac Myfi, Attat Ti yr wyf yn dyfod. Y Tad sancteiddiol, cadw hwynt yn Dy enw yr hwn a roddaist i Mi, fel y byddont yn un, fel Ninnau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A mwyach nid wyf yn y byd, ond y maent hwy yn y byd, ac yr wyf i’n dyfod atat ti. Dad santaidd, cadw hwynt yn d’ enw di a roddaist i mi, fel y byddont yn un fel ninnau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac nid wyf mwyach yn y byd, ond y rhai hyn sydd yn y byd, a myfi sydd yn dyfod atat ti. Y Tad sancteiddiol, cadw hwynt trwy dy enw, y rhai a roddaist i mi; fel y byddont un, megis ninnau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i ddim yn aros yn y byd ddim mwy, ond maen nhw yn dal yn y byd. Dw i'n dod atat ti. Dad Sanctaidd, cadw'r rhai wyt ti wedi eu rhoi i mi yn saff ac yn ffyddlon i ti dy hun, er mwyn iddyn nhw ddod yn un fel dŷn ni'n un.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid wyf fi mwyach yn y byd, ond y maent hwy yn y byd. Yr wyf fi'n dod atat ti. O Dad sanctaidd, cadw hwy'n ddiogel trwy dy enw, yr enw a roddaist i mi, er mwyn iddynt fod yn un fel yr ydym ni yn un.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac nid wyf mwyach yn y byd, a'r rhai hyn sydd yn y byd, ac yr wyf fi yn dyfod atat ti. O Dâd Sanctaidd, cadw hwynt yn dy enw, yr hwn wyt wedi ei roddi i mi, fel y byddont un, megys ninau.