John 17:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Tra oeðwn gyd ac wynt yn y byt, mi ei cedweis hvvy yn dy Enw: yr ei a roddeist y‐my, a gedweis, ac ny chollwyt yr vn o hanynt any d y map y cyfergoll, er cyflawuy ’r Scrythur ’lan.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Tra y bu’m gyda hwynt, Myfi a’u cedwais yn Dy enw yr hwn a roddaist i Mi; a gwarchedwais hwynt; ac nid un o honynt a gollwyd, oddieithr mab y golledigaeth, fel y bo i’r ysgrythyr ei chyflawni.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pan oeddwn gyda hwynt, yr oeddwn i’n eu cadw yn dy enw a roddaist i mi, a gwarchedwais hwy, ac nid aeth yr un ohonynt ar goll, ond mab y golled, er mwyn cyflawni’r Ysgrythur.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Tra fûm gyda hwynt yn y byd, mi a'u cedwais yn dy enw: y rhai a roddaist i mi, a gedwais, ac ni chollwyd ohonynt ond mab y golledigaeth; fel y cyflawnid yr ysgrythur.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tra dw i wedi bod gyda nhw, dw i wedi eu cadw nhw'n saff ac yn ffyddlon i ti. A chafodd dim un ohonyn nhw ei golli ar wahân i'r un oedd ar ei ffordd i ddinistr, er mwyn i'r ysgrifau sanctaidd ddod yn wir.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan oeddwn gyda hwy, yr oeddwn i'n eu cadw'n ddiogel trwy dy enw, yr enw a roddaist i mi. Gwyliais drostynt, ac ni chollwyd yr un ohonynt, ar wahn i fab colledigaeth, i'r Ysgrythur gael ei chyflawni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pan yr oeddwn gyd â hwynt, mi a'u cedwais yn dy enw yr hwn wyt wedi ei roddi i mi; ac mi a'u gwyliais, a neb o honynt ni chollwyd ond Mab y Golledigaeth, fel y cyflawnid yr Ysgrythyr.