John 17:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yr awrhon yd af atat, a’r pethe hyn ydd wyf yn y h adrodd yny byt, val y caffant vy llewenydd yn gyflawn edic ynddynt ehunain.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn awr, Attat yr wyf yn dyfod: ac y pethau hyn yr wyf yn eu llefaru yn y byd fel y bo ganddynt Fy llawenydd yn gyflawnedig ynddynt eu hunain.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond yn awr yr wyf yn dyfod atat ti, a hyn yr wyf yn ei ddywedyd yn y byd fel y bo ganddynt fy llawenydd i wedi ei gyflawni ynddynt hwy eu hunain.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr awron yr wyf yn dyfod atat: a'r pethau hyn yr wyf yn eu llefaru yn y byd, fel y caffont fy llawenydd i yn gyflawn ynddynt eu hunain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dw i'n dod atat ti nawr, ond dw i'n dweud y pethau hyn tra dw i'n dal yn y byd er mwyn iddyn nhw gael bod yn wirioneddol hapus fel fi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yn awr yr wyf yn dod atat ti, ac yr wyf yn llefaru'r geiriau hyn yn y byd er mwyn i'm llawenydd i fod ganddynt yn gyflawn ynddynt hwy eu hunain.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond yn awr yr wyf yn dyfod atat ti; a'r pethau hyn yr wyf yn eu llefaru yn y byd, fel y caffont fy llawenydd i yn gyflawn ynddynt eu hunain.