John 17:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mi vi a rois yddynt dy ’air, a’r byt y casaodd hwy, can na d ynt o’r byt, megis ac na d wy vi o’r byt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Myfi a roddais iddynt Dy air; ac y byd a’u casaodd hwynt gan nad ydynt o’r byd, fel nid wyf Finnau o’r byd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Mi a roddais iddynt d’air di, a chashaodd y byd hwy, am nad ŷnt o’r byd, fel nad wyf innau o’r byd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Myfi a roddais iddynt hwy dy air di: a'r byd a'u casaodd hwynt, oblegid nad ydynt o'r byd, megis nad ydwyf finnau o'r byd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i wedi rhoi dy neges di iddyn nhw ac mae'r byd wedi eu casáu nhw, am eu bod nhw ddim yn perthyn i'r byd fwy na dw i'n perthyn i'r byd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf fi wedi rhoi iddynt dy air di, ac y mae'r byd wedi eu casu hwy, am nad ydynt yn perthyn i'r byd, fel nad wyf finnau'n perthyn i'r byd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr ydwyf wedi rhoddi iddynt hwy dy Air, a'r byd a'u cashâodd hwynt, oblegyd nad ydynt o'r byd, megys nad wyf finau o'r byd.